Arwyddwch ein Llythyr Agored at y Prifweinidog ac i'r Gweinidog Addysg

Llythyr agored at FM a'r Gweinidog Addysg

Rydym yn apelio arnoch i ailfeddwl am ganlyniadau arholiadau eleni.

Oherwydd covid19, nid yw eleni wedi bod yn flwyddyn arferol i unrhyw un. Mae hi wedi bod yn arbennig o galed ar blant a phobl ifanc. Mae'r problemau gyda'r algorithmau sy'n pennu eu canlyniadau wedi gwneud eu dyfodol hyd yn oed yn fwy ansicr ac wedi ychwanegu at bryderon.

Rydym yn galw ar eich llywodraeth i dderbyn hynny ac i wneud addasiadau i sicrhau bod y garfan hon o ddisgyblion yn cael y tosturi a'r ddealltwriaeth y maent yn eu haeddu. Os yw hynny'n golygu bod canlyniadau eleni yn blip ystadegol, yna bydded felly.

Mae nid yn unig yn anghywir ond mae'n mynd yn groes i ddeddfwriaeth Cenedlaethau a Lles y Dyfodol eich llywodraeth eich hun (2015) sy'n ceisio creu “Cymru fwy cyfartal - cymdeithas sy'n galluogi pobl i gyflawni eu gwir botensial waeth beth fo'u cefndir neu brofiad”, gan ei bod yn ymddangos bod ysgolion yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig wedi gweld mwy o israddio graddau (o gymharu â'r graddau a aseswyd gan ganolfannau) na'r ysgolion hynny â dalgylchoedd gyda chôd post mwy breintiedig. Ni fyddwn yn derbyn y dylai myfyrwyr dosbarth gweithiol o Gaerdydd brofi gwahaniaethu mor amlwg oddi wrth system addysg a ddylai fod yn eu helpu i fynd i'r afael â'r rhwystrau dosbarth hynny.

Mae'n amlwg na ellir ymddiried yn yr algorithmau sy'n pennu'r canlyniadau ledled y DU. Gallwn ymddiried yn yr athrawon a chywirdeb y broses ar gyfer cyrraedd y graddau a aseswyd yn y ganolfan. Yn yr Alban cafodd hyn ei gydnabod a'i unioni'n gyflym.

Felly, rydym yn mynnu y dylai'r myfyrwyr hynny sydd wedi gweld eu graddau'n gostwng gael eu uwchraddio yn syth i'r graddau a aseswyd gan y ganolfan.

Mae myfyrwyr Cymru yn colli mas ar leoedd prifysgol nawr, felly rydym yn eich annog i weithredu yn ddi-oed.

A fyddwch yn llofnodi?

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.