Ashley Drake yw ymgeisydd Plaid Cymru yng Ngogledd Caerdydd yn etholiad Senedd 2021.
Cefais fy ngeni yn y Rhondda, ond yr Eglwys Newydd sydd wedi bod yn gartref i mi dros yr 20+ mlynedd diwethaf. Yn ŵr ac yn dad i dwy ferch yn eu harddgeau, dwi wedi gweithio yn y sector preifat, cyhoeddus a gwirfoddol, ac fe wnaeth fy musnes cyhoeddi llyfrau ddathlu ei benblwydd yn 25 yn ddiweddar. Dwi’n credu y dylen ni wneud popeth y gallwn ni i gefnogi ein cymunedau lleol, ac roedd yn anrhydedd enfawr i gael fy ethol gan rhieni ysgol fy merched, Ysgol Melin Gruffydd i fod yn Lywodraethwr, ac fel Cadeirydd y Llywodraethwyr am gyfnod.
Mae adferu ac ail-adeiladu o’r pandemig, gwynebu heriau gwleidyddol ac economaidd Brexit a brwydro newid hinsawdd yn faterion allweddol i’n Senedd. Mae nhw’n effeithio ni gyd, ac mae rhaid i ni weithio gyda’n gilydd er mwyn gwneud Cymru yn le gwell, iach, a diogel.
Mae rhaid cael ymholiad lawn, annibynnol mewn i delio Llywodraeth Cymru â’r pandemig. Rydym ni’n ddyledus i’r gweithwyr allweddol fe wnaethom ni glapio am, i wneud hyn, yn ogystal a’r 7000+ rydym wedi colli
Yr un peth sy’n uno ni gyd yw ein dymuniad i gael ein trin yn deg, gyda pharch ac urddas, ac mi fydd hwnna wrth graidd fy ngwaith fel Aelod o’r Senedd dros Ogledd Caerdydd e.e.
- Ar lefel leol, mae 30% o blant Cymru yn byw mewn tlodi, gan gynnwys miloedd yng Ngogledd Caerdydd. Trwy bolisiau ymarferol y blaid, mi fyddwn ni’n gwneud diweddu tlodi plant yn flaenoriaeth.
- Ar lefel genedlaethol, mae gan Gymru economi gryf (rydym yn fwy cyfoethog y pen na Phortiwgal, er enghraifft), ond ni yw’r tlotaf yng Ngorllewin Ewrop. Bydd buddsoddi mewn technoleg werdd yn creu cyfoeth cynaladwy, a chwarae teg economaidd i bobl Gogledd Caerdydd.
- Ar lefel byd-eang, mae’r llifogi diweddar mewn tai a strydoedd fawr yng Ngogledd Caerdydd yn arwydd o sut mae newid hinsawdd yn effeithio ni gyd. Dim ond gyda pharch am ein byd naturiol, e.e. atal dinistriad y Dolydd Gogleddol gallwn atal newid hinsawdd, ac mi fydd e yn flaenoriaeth i mi.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter